Adran yr Aelodau

Digwyddiadau


Gwybodaeth

Hanes

ARCHIF MENYWOD CYMRU / WOMEN’S ARCHIVE OF WALES:

HANES CRYNO


Sefydlwyd Archif Menywod Cymru / Women’s Archive of Wales yn 1997 i achub a diogelu profiadau unigryw menywod yng Nghymru, ac i godi ymwybyddiaeth o hanes menywod yng Nghymru.


Syniad gwreiddiol yr haneswyr, Ursula Masson a Deirdre Beddoe, oedd sefydlu’r Archif. Roedden nhw’n sylweddoli bod Lloegr, yr Alban ac Iwerddon ymhell ar y blaen i Gymru o safbwynt casglu cofnodion am hanes menywod.  


Yn 1995, llwyddodd Ursula i sicrhau cyllid gan Brifysgol Morgannwg i greu cofnod o hanes Mudiad Rhyddid Menywod yn ne Cymru. Roedd ymchwil Ursula a’r Cynorthwyydd Ymchwil, Avril Rolph, yn cynnwys archwilio defnyddiau perthnasol mewn archifau a chyfweld menywod a fu’n ymwneud â’r mudiad. Yn anochel, byddai sawl un o’r rhain yn tynnu allan fagiau’n llawn papurau, ffotograffau, toriadau papur newydd, cylchlythyrau a defnyddiau eraill i’w dangos iddynt. Roedd hi’n amlwg fod llawer o ddefnyddiau ar gael a’u bod mewn perygl o fynd ar ddifancoll, a hynny o safbwynt un pwnc yn unig,  

Felly ym mis Rhagfyr 1997 trefnodd Ursula gyfarfod, gan wahodd iddo bob un y gallai feddwl amdani a oedd yn ymddiddori yn y maes, i drafod sut y gellid casglu a chadw cofnodion am fywydau a gweithgareddau menywod yng Nghymru. Dyma sut y crëwyd Archif Menywod Cymru / Women’s Archive of Wales (AMC/WAW).


Sefydlwyd gweithgor: yr aelodau oedd Ursula Masson, Deirdre Beddoe, Avril Rolph, Jenny Sabine, Susan Edwards (Archifydd Morgannwg), a thri chynrychiolydd o Ganolfan Menywod Caerdydd gynt - Sheryl Chetcuti, y ddiweddar Dawn Braude a Fran Rawlings. Cynhaliwyd cyfarfodydd misol o fis Chwefror 1998 ymlaen.


Cynadleddau a digwyddiadau

Digwyddiad mawr cyntaf yr archif oedd trefnu cynhadledd hanner diwrnod a Chinio Mawreddog i Ddathlu’r Bleidlais, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, ar ddydd Sadwrn 31ain Hydref 1998.  Y siaradwyr yn y Gynhadledd oedd: yr Athro Deirdre Beddoe ar ddarganfod hanes menywod yng Nghymru, a Dr Katie Gramich ar awduron benywaidd Cymru a rhyddfreinio menywod. Yn dilyn y rhain cafwyd trafodaeth gan banel ar y thema: ‘Ble ydyn ni ‘nawr? Ble ydyn ni’n mynd?’


Roedd y cinio yn nodi 70ain pen-blwydd yr un a gynhaliwyd gan Swffragetiaid Abertawe ar 28ain Hydref 1928 i ddathlu ennill y bleidlais gyffredinol. Gofynnwyd i’r ciniawyr gynnig llwnc destun i Gymraes o’u dewis, a chafwyd cerddoriaeth gan Jen Wilson, a gyflwynodd ei theyrnged fyrlymus ei hun i fenywod hanes Cymru.  


Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol cyntaf yr Archif cyn y gynhadledd. Ymhlith y penderfyniadau roedd cytundeb i ysgrifennu cyfansoddiad, a phennu tâl aelodaeth o £10, neu £5 i rai ar incwm isel, symiau sydd wedi aros yr un fath byth ers hynny. Penodwyd pwyllgor.  Etholwyd Deirdre yn Gadeirydd, swydd y bu ynddi, nes iddi gael ei ‘dyrchafu’ yn Llywydd cyntaf yr Archif yng Nghyfarfod Blynyddol 2004.  Bu cryn drafod ynglŷn â chael ein hadeilad ein hunain gydol y flwyddyn gyntaf, ond sylweddolwyd y byddai’r gost yn ormodol. Yn hytrach, buom yn ystyried cynllun lle byddem yn annog derbyniadau yn frwd, i’w gosod ar adnau yn yr archifdai presennol, fel rhan o gasgliad AMC/WAW. Yno caent eu cadw’n broffesiynol a byddent ar gael i’r cyhoedd. Cynigwyd hyn yn y Cyfarfod Blynyddol gan Susan Edwards ac fe’i derbyniwyd yn unfrydol.  


Ers hynny, cynhaliwyd Cyfarfodydd Blynyddol a Chynadleddau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1999); Castell Cyfarthfa, Merthyr (2000); Archifdy Morgannwg, Caerdydd (2001) – thema’r diwrnod oedd ‘Menywod a’r Mudiadau Heddwch’, i nodi 20fed pen-blwydd yr orymdaith o Gaerdydd i Gomin Greenham gan Women For Life On Earth; Amgueddfa Cwm Cynon, Aberdâr (2002); Archifdy Sir Gaerfyrddin (2003); Amgueddfa Abertawe (2004); dychwelyd i’r Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth yn 2005 a Phontypridd yn 2006. Yn 2007 cynhalion ni’r gynhadledd benwythnos gyntaf ym Mangor (2007) gyda chinio cynhadledd ar y nos Sadwrn. Dyna fu patrwm y cynadleddau canlynol, yn Aberystwyth yn 2008, dychwelyd i Gaerdydd yn 2009; Abertawe yn 2010, a Chaernarfon yn 2011.

Ymhlith y gweithgareddau llwyddiannus eraill cafwyd digwyddiadau ar y cyd, gan gynnwys cynhadledd benwythnos ‘Mamwlad: Ysgrifennu gan fenywod a hanes menywod’ mewn cydweithrediad â Choleg y Drindod, Caerfyrddin (2000). Yn 2004 buom yn cydweithio â  Women’s History Network a Llafur, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru, i gynnal cynhadledd ym Mhrifysgol Morgannwg ar Re-Presenting the British Past: women and gender and history in the British Isles, gyda siaradwyr yn cynrychioli Cymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr.  Cynhaliwyd cynhadledd ddiwrnod ar y cyd â Llafur i gofio Ursula Masson, a fu farw ym mis Ebrill 2008, un o nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd i’w choffáu,.


Gwaith a llwyddiannau

Mudiad hollol wirfoddol yw AMC/WAW a daw ei incwm yn gyfan gwbl o danysgrifiadau aelodau, rhoddion ac ymdrechion aelodau i godi arian. Rydym yn ddibynnol ar gymorth a chefnogaeth archifdai Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, ac amgueddfeydd yng Nghymru, i ofalu am yr eitemau a roddir i ni. Rhaid i ni chwilio am grantiau i ymgymryd ag unrhyw brosiectau mawr.


Ym mis Ebrill 2007 cawsom grant o £187,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri (CTL) i redeg cyfres o Sioeau ar Daith Hanes Menywod ar draws Cymru. Roedd hyn yn dilyn misoedd o baratoi gan y pwyllgor, gan gynnwys rhedeg sioe ar daith beilot i ddatblygu’n methodoleg. Caniataodd y grant inni rentu swyddfa a chyflogi swyddog datblygu llawn amser, Sue Hamill, a dwy weithwraig maes ran-amser, Rhiannon Gomer a Justine Hankins. Bu’r tair yn trefnu a rhedeg 17 sioe ar daith mewn lleoliadau ledled Cymru. Ar gyfer y sioeau, a oedd yn seiliedig ar raglen y BBC, Antiques Roadshow, câi pobl leol eu gwahodd i ddod â’u dogfennau eu hunain, neu rai am fywydau a gweithgareddau menywod eraill, i’w dangos i ni a’u trafod gyda haneswyr. Bu aelodau’r pwyllgor ac aelodau eraill yn cydweithio â staff y prosiect yn ystod y Sioeau ar Daith. Roedd y rhain yn ddigwyddiadau cofiadwy, a phleserus. O ganlyniad i’r prosiect llwyddwyd i gael llawer o dderbyniadau i’r Archif, yn ogystal â sganiau a ffotograffau o eitemau a recordiadau o storïau eu perchnogion.

 

Un o amodau allweddol grant CTL oedd y byddai’r cyhoedd yn gallu cael  mynediad i’r hyn a gasglwyd yn y Sioeau ar Daith. Gwireddwyd hynny trwy wefan Casgliad y Werin Cymru, lle gellir gweld tua 1,000 o’r eitemau a welwyd yn y Sioeau ar Daith. (www.casgliadywerincymru.co.uk)

Bu’r prosiect yn waith enfawr, yn enwedig i bedair aelod y Grŵp Rheoli: Catrin Stevens, Avril Rolph, Gail Allen a Jenny Sabine. Cawsom lawer o gymorth hefyd gan Susan Edwards, Archifdy Morgannwg, a’i staff, a ofalodd am reoli agweddau cyllidol a phersonél y prosiect. Mae’r prosiect Sioeau ar Daith wedi codi proffil yr Archif ledled Cymru a thu hwnt, ac wedi cadarnhau statws yr Archif ym mywyd diwylliannol Cymru.

Wrth gwrs, mae gwaith craidd yr Archif wedi mynd yn ei flaen yn y cefndir gydol y blynyddoedd hyn. Yn 2001 gwnaethon ni gais llwyddiannus am statws elusen. Rydym wedi creu gwefan ddwyieithog. Rydym wedi meithrin cysylltiadau â chydweithwyr yn y DU ac mewn gwledydd eraill. Rydym wedi rhoi llawer o gasgliadau ar adnau mewn archifdai yng Nghymru ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rydym yn cadw manylion am ein haelodau ac yn cynhyrchu cylchlythyr chwarterol.

Rhoddodd cwblhau’r prosiect Sioeau ar Daith gyfle i ni ystyried cyfeiriad yr Archif at y dyfodol. Rydym yn annog unrhyw un sydd â dogfennau, ffotograffau, a.y.b. sy’n cynrychioli hanes menywod i’w rhoi ar adnau yn yr archifdy sirol perthnasol, gan ofyn iddynt eu cofrestru dan enw AMC/WAW.   

Mae hyn yn ein rhyddhau i weithio i hyrwyddo dysgu, astudio ac ymchwilio hanes menywod yng Nghymru, i godi proffil menywod yn hanes Cymru, ac i annog pobl i ddarganfod a gwerthfawrogi'r hanes a’r dogfennau hanesyddol sy’n adlewyrchu bywydau menywod yng Nghymru yn y gorffennol a’r presennol.  

Rydym yn gwneud hyn

trwy gynnal cynhadledd benwythnos flynyddol, sy’n cynnig fforwm i unrhyw un sy’n ymddiddori yn hanes menywod yng Nghymru, boed yn academydd profiadol ai peidio, i gyflwyno’i hymchwil a derbyn adborth mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol;

trwy gynnal darlithoedd gan haneswyr profiadol ar hanes menywod;

trwy gyfrwng prosiectau amrywiol gan weithgorau o aelodau.


Rhagfyr 2011.