Sioeau ar Daith

Y Lansiad: Y Senedd, Bae Caerdydd – 29ain ionawr 2008

Llanelli – 22ain Chwefror

Trfynwy – 6ed Mawrth

Dolgellau – 18fed Mawrth

Amgueddfa’r Glannau Abertawe – 19eg Ebril

Casnewydd – 16eg Mai

Caernarfon – 28ain Mehefin

Blaenafon – 24ain Gorffennaf

Hwlffordd – 13eg Medi

Aberystwyth – 11eg Hydref

Llandrindod – 1af Tachwedd

Caerfyrddin – 29 Tachwedd

Yr wyddgrug – 9fed Ionawr 2009

Pontypridd – 28ain Chwefror

Wrecsam – 28ain Mawrth

Llangefni – 25ain Ebrill

Merthyr Tudful – 16eg Mehefin

Yr Wyddgrug

Ar ddiwrnod olaf Ionawr cynhaliwyd y drydedd Sioe ar ddeg mewn cyfres o 17, a hynny yng Ngogledd-orllewin Cymru.  Tref farchnad brysur ydy’r Wyddgrug, ac fe’i dewiswyd am ei bod hi’n hawdd ei chyrraedd i drigolion Fflint a rhannau o Sir Ddinbych.  Cafwyd croeso cynnes yn yr Eglwys Fethodistaidd Saesneg, a hefyd gymorth ymarferol wrth baratoi’r neuadd a’r lolfa ar gyfer cynnal y Sioe ar Daith.

Cafwyd agoriad swyddogol am 11 o’r gloch gyda’r neuadd yn llawn o ymwelwyr disgwylgar.  Cyflwynodd yr Athro Deirdre Beddoe, Llywydd Archif Menywod Cymru, y gwestai arbennig yn ei ffordd ddihafal ei hunan, gan olrhain cefndir Sandie Mewies yn ogystal â’i chyfraniad fel benyw ac fel gwleidydd.  Siaradodd yr Aelod Cynulliad dros Delyn yn ddifyr a bywiog am bwysigrwydd y gwaith a wneir gan Archif Menywod Cymru yn ei golwg hi, yn arbennig drwy gyfrwng y sioeau ar daith.

Heblaw am yr unigolion oedd yn cymryd rhan, daeth tua 70 o ymwelwyr i’r Sioe, gyda nifer helaeth ohonynt yn cludo eitemau i’w trafod gyda’n harbenigwyr;  yn ogystal â Deirdre Beddoe, yr arbenigwyr yn Yr Wyddgrug oedd Catrin Stevens, hanesydd ac awdur ac aelod o grŵp cynllunio AMC, a Claire Harrington, prif archifydd Sir Fflint. Roedd Jenny Sabine, Ysgrifennydd AMC yn derbyn deunydd i’w adneuo, a Mark Allen, y Gwarchodwr o Archifdy Sir Fflint ar gael i egluro dulliau gwahanol o storio deunydd hanesyddol i’w rhwystro rhag dirywio. Cafwyd cefnogaeth dechnegol gan staff AMC a gwirfoddolwyr, oedd hefyd yn cyfarch a chyfarwyddo ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd, sy’n swyddogaeth hanfodol i lwyddiant Sioe o’r math yma.



Wrth aros i weld yr arbenigwyr, cafodd yr ymwelwyr baned Masnach Deg wedi’i pharatoi gan gangen leol Merched y Wawr, a maeth i’r ymennydd drwy wrando ar sgwrs gan ddwy wraig abl a diddorol.



Daeth Mary Roberts draw o Dreuddyn i drafod Y Fonesig Ruth Herbert Lewis a’i chyfraniad sylweddol at ddiogelu canu gwerin yng Nghymru drwy gasglu caneuon cyn iddynt fynd ar goll.  Daeth yn ysgrifennydd a llywydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn nes ymlaen. Mae Mary Roberts hithau yn adnabyddus yn lleol am ei chyfraniad i addysg gynradd yn yr ardal.



Mewn cyferbyniad llwyr, roedd yr ail sgwrs gan yr Athro Cynthia Burek o Brifysgol Caer, daearegydd sy’n unigryw drwy fod yr Athro cyntaf yn y byd mewn Daeareg Gadwraethol.  Gwnaeth ymchwil i waith merched ym maes gwyddoniaeth, a chyhoeddodd gyfrol ar y cyd am gyfraniad merched at hanes daeareg.  Siaradodd am ‘Swyddogaeth y Ferch yn natblygiad Daeareg yng Nghymru’.  Cafwyd cynulleidfa deilwng i’r ddwy sgwrs, a chanmoliaeth fawr i’w safon.



Roedd gennym hefyd nifer o arddangosfeydd yn y neuadd i ddiddanu’r ymwelydd.  Daeth David Rowe o Gymdeithas Ddinesig yr Wyddgrug gyda’i gasgliad cyfrifiadurol o archifau lleol.  Roedd David wedi dethol dros 300 o ddelweddau o ferched Sir Fflint i’w dangos, gan rannu o’i wybodaeth eang o hanes yr ardal a’i thrigolion.  Bu’n brysur yn eu trafod gyda’r ymwelwyr, a gobeithiwn y bydd hyn yn denu mwy o gyfraniadau i’w gwefan yn y dyfodol.  Daeth grŵp rhanbarthol o Ferched y Wawr, a Ffederasiwn Clwyd-Fflint o Sefydliad y Merched ag arddangosfeydd yn olrhain eu hanes a’u crefft, a Nia Wyn Jones o wasanaeth llyfrgell Fflint gydag arddangosfa ddifyr am ferched amlwg yr ardal.  Hefyd, daeth Angela Brunt, sy’n ymroddgar yn ei hymdrechion i godi arian tuag at AMC, â’i stondin o gardiau Santes Ffolant a siocled er mwyn swyno’r ymwelydd.



Denodd y Sioe ar Daith yn Yr Wyddgrug nifer o eitemau gwerthfawr i’w hadneuo – yn wir y nifer mwyaf mewn unrhyw sioe hyd yma, a bydd y rhain yn cael eu cadw yn yr archifdai perthnasol i natur y deunydd.  Un o’r uchafbwyntiau oedd dyddiaduron Florence M.E. Davies o Nercwys, a fu’n gweithio fel meddyg yn Tsieina rhwng 1928 ag 1939 er nad oedd wedi cymhwyso. Mae’r cynnwys yn disgrifio’i bywyd dramor ac yng Nghymru, ac yn rhoi ei barn ar wleidyddiaeth y cyfnod, y bywyd gwyllt lleol, ac yn fwyaf neilltuol ei chyfeillgarwch gyda nifer o ferched dros y cyfnod hwn.  Cafwyd hyd i’r ddogfen hynod ddiddorol yma mewn siop lyfrau ail-law gan Sylvia Jones ac Alison Proctor o Dreffynnon, ac mae bellach yn rhan o gasgliad yr Archif.

Eitem arall a adneuwyd oedd ewyllys Jane Davies o blwyf Yr Hob yn Sir Fflint, dyddiedig Medi 1793.  Gwraig weddw oedd Jane Davies, ac mae’n ymddangos fod ewyllysiau gan wragedd gweddwon yn bethau cymharol brin.  Llofnododd yr ewyllys gyda chroes, ac mae’n cyfeirio at adael ei gwely plu a’i chwpwrdd cornel i’w pherthnasau, sy’n mynd at galon rhywun.  Ychydig yn llai teimladwy ydy’r llun gafodd ei ddangos gan Iola Wyn Jones o’i modryb Kitty gyda gwn yn ei llaw newydd saethu dwy arth yng ngogledd India yn ystod yr 1920au. Priododd â dyn o’r enw Dickson-Abbot oedd yn gosod rheiliau tramiau yn India bryd hynny, ac mae’n ymddangos iddi gael bywyd gwahanol iawn yno i’r hyn a brofodd yng Nghymru cyn mynd dramor.

Kitty Dickson-Abbot yn ystod ei bywyd yng ngogledd India

Yn nes at adref, daeth Rhiannon Griffiths â dogfennau’n tystio iddi gefnogi gwahanol fudiadau yn ystod yr 1940au - Y Groes Goch a Sant Ioan, yr Urdd ac Ysgol Sul y Bedyddwyr.  Rhoddodd ddwy raglen i’w hadneuo - y gyntaf am ddramâu a gyflwynwyd gan ddisgyblion Ysgol Gyngor yn Yr Wyddgrug er mwyn codi arian ar gyfer parseli’r Groes Goch yn ystod misoedd olaf yr Ail Ryfel Byd, a’r ail am weithgareddau yn ystod ‘Victory Garden Week’ gafodd eu cynnal gan y Groes Goch, yn cynnwys cystadleuaeth i ferched am y ffêr fwyaf siapus, a’r wobr oedd ‘sanau sidan.


Daeth Ruby Roberts â nifer o ddogfennau am ei theulu, gan gynnwys tystysgrif a gyflwynwyd i’w nain, Amina Rowlands, oedd yn un o 12 plentyn, a hyfforddodd i ddod yn nyrs yn Lerpwl rhwng 1881 ac 1884.  Roedd hi’n un o’r rhai cyntaf i wisgo lifrai Nyrs Ardal pan oedd hi’n gweithio yn hofelau Lerpwl yn y cyfnod hwnnw.

TMae’r enghreifftiau hyn yn rhoi blas o amrywiaeth y dogfennau ddaeth i’r Sioe ar Daith yn Yr Wyddgrug, ac yn dystiolaeth o’i llwyddiant.


Rhiannon Gomer

Swyddog Maes y Gogledd a’r Gorllewin

Detholiad o ddyddiadur Florence Davies' fu’n feddyg yn Tseina

Tystysgrif nyrsio Amina Rowlands

Sioe ar Daith Yr Wyddgrug, 31 Ionawr 2009